Podpeth

Informações:

Sinopsis

Mae Hywel Pitts, Iwan Pitts ac Elin Gruffydd yn cyflwyno Podpeth, Y Podlediad Cymraeg - cyfres gyfredol, goeglyd a ddadleuol.

Episodios

  • Podpeth #58 - "Sgrin"

    09/01/2019 Duración: 30min

    Mae Elin yn nol!  A @SpursMel, sydd yn egluro ei SyniaDad gorau eto - "Sgrin".  Hefyd, mae Hywel ac Elin wedi bod Ar Y Zip!

  • Podpeth #57 - "Heddwch ei Lwch 2018"

    02/01/2019 Duración: 34min

    Blwyddyn Newydd Dda! Mae Elin yn sal - ond mae'r brodyr Pitts yma efo Papa Pitts (@SpursMel) i chwarae "Heddwch Ei Lwch 2018"! Mae Heddwch Ei Lwch yn SyniaDad am raglen cwis. Mae pob ateb yn berson wnaeth farw yn 2018.  Mwynhewch!

  • Podpeth #56 - "Paff-ddydd Hapus"

    26/12/2018 Duración: 30min

    Iawn latch? Mae Iwan, Hywel ag Elin yn trafod Diwrnod Westminster.  Hefyd: rap battles Y Fari Lwyd, addunedau blwyddyn newydd a traddodiadau eraill Boxing Day Cymreig.

  • Podpeth #55 - "Pwpsi Syrpreis"

    19/12/2018 Duración: 30min

    Mai bron yn ddolig! Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod beics, carolau dolig a llwyau cariad (eto). Hefyd, da ni'n hel atgofion am tegannau reslo a doli's babis sy'n cachu.

  • Podpeth #54 - "Writer's Block"

    12/12/2018 Duración: 30min

    Mae @SpursMel yn nol ar y Podpeth gyda SyniaDad newydd - "Writer's Block".  Hefyd, mae Santa yn dod heibio'r tŷ.

  • Podpeth #53 - "Cawl Cariad"

    05/12/2018 Duración: 30min

    Dim Elin tro yma, felly mae Iwan ac Hywel yn trio cofio be oedd o fel yn yr hen ddyddiau. Lovespoons, ysbrydion, enwau randym a gwestai ydi'r pynciau wythnos yma.

  • Podpeth #52 - "Sbwngllyd"

    28/11/2018 Duración: 30min

    Ola chicas! Dyma pennod newydd o Podpeth! Mae Hywel, Elin ac Iwan yn cyflwyno hanner awr o fwydro eto. Clocks, bins, Little Chef a twyllo mewn cwis tafarn! Gyda pennod gyntaf "POD!" - Podlediad addysgol i blant; gyda Elin, Hywel, "Peth" y creadur diniwed ac effeithiau sain anhygoel.

  • Podpeth #51 - "Mochan"

    21/11/2018 Duración: 30min

    Elin, Hywel ac Iwan yn cyflwyno Podpeth!   Mae Elin yn dangos sgiliau acenion hi, mae Iwan yn siarad am neud rhaglenni datio i S4C, ac mae Hywel yn ateb y cwestiwn “Pwy di Hywel Pitts?” Hefyd, yn dod yn fuan - t-shirts a hwdis Podpeth!

  • Podpeth #50 - "Canwr Clwb Y Flwyddyn"

    14/11/2018 Duración: 30min

    Mae Elin, Hywel ac Iwan yn trafod "Be da chi isio?" ac yn dod i'r canlyniad - Syniadau!  Felly, mae @SpursMel yn nol ar y Podpeth gyda SyniaDad newydd - "Canwr Clwb Y Flwyddyn".

  • Podpeth #49 - "Ffowc o Podpeth"

    07/11/2018 Duración: 30min

    Bang bang! Mae hi'n fuan ar ol Noson Tan Gwyllt, ac i ddathlu, dyma bennod o Podpeth! Yn y pennod yma, mae Iwan yn cyfarfod Elaine Summer a Howell Pydew.  Mae'r gang yn trafod y presennol, penblwyddi a porn parodies diog.  Mae Elin yn wglo, mae rhywun yn trigro Alexa heb drio ac mae dipyn o nostalgia tuag at gemau plant a WWE.

  • Podpeth #48 - "Ofnadwych"

    31/10/2018 Duración: 30min

    Wwww Sbwci! Mae hi'n Galan Gaeaf, ac mae Podpeth yn ôl am byth! Elin, Hywel ac Iwan sy'n cyflwyno Podpeth ar ei newydd wedd - hanner awr o falu awyr heb gynllun na rheswm.  Mae Podpeth bellach yn bodlediad Dosbarth Canol, ac yn trafod bod yn Ddosbarth Canol, prynu tai a phowlenni ffrwythau, ac i ddangos pa mor anhygoel ac angenrheidiol ydi iaith, mae'r gang yn trio neud Podpeth heb ddefnyddio geiriau.

  • Podpeth #47 - "Henffych"

    01/04/2018 Duración: 01h13min

    Mae Podpeth yn ôl! Mae Iwan wedi cael gig gwael, ac yn cael rant mor anghyfforddus am y peth ein bod ni'n ei gladdu ar ddiwedd y bennod, ac mae Elin a Hywel wedi prynu tŷ! Wythnos yma yn Class Cymraeg, mae Elin yn trafod termau pêl-droed. Hefyd, mae Dad yn trafod y SyniaDad diweddaraf - "Talwn Y Beirdd".

  • Cwis Podpeth 2017

    07/01/2018 Duración: 01h39min

    Blwyddyn Newydd Dda! Mae Elin wedi creu cwis, ac mae'r brodyr yn mynd ben-ben i weld pwy oedd yn cymryd sylw ar y newyddion yn 2017! Chwaraewch ymlaen adra a thrydarwch eich sgôr i @podpeth! Efallai bydd wobr i'r tîm gyda'r sgôr uchaf. Hefyd, mae 'na rownd gan Dad (Heddwch ei Lwch 2017) sydd efallai ddim yn cyfri tuag at y sgôr terfynol...

  • Podpeth Dolig 2017 - "Tina Turnips"

    24/12/2017 Duración: 01h58min

    Nadolig Llawen! Class Cymraeg!  SyniaDad!  Sion Corn?!  Be ydi'r gwahaniaeth rhwng Sleigh, Sled a Sledge? Hyn a mwy mewn pennod hynod hir Podpeth!

  • Podpeth #46 - "Interrobang?!"

    18/12/2017 Duración: 01h24min

    Konnichiwa! Lle mae'r Podpeth wedi bod?! Be ydi'r gwahaniaeth rhwng cupcake a fairy cake? Be ydi eyebrows yn Gymraeg? Y cwestiynau yma a lot mwy yn cael ei ateb wythnos yma mewn pennod newydd o Podpeth. Hefyd, mae Dad yn dychwelyd gyda SyniaDad anhygoel arall - "Priodi Pwy?!"

  • BONWS - Mathonwy Llwyd

    04/10/2017 Duración: 01h07min

    Ein gwestai arbennig wythnos yma ydi Mathonwy Llwyd (Y Reu).  Mae o'n trafod gitars, Y Reu, yr SRG, bod yn athro, ac hefyd yn ateb eich cwestiynau Twitter.  Dilynwch Y Reu ar Twitter @y_reu, hoffwch ar Facebook @yreumusic - neu gwrandewch ar SoundCloud - https://soundcloud.com/y-reu

  • Podpeth #45 - "Acagnacnag"

    02/10/2017 Duración: 01h19min

    Wythnos yma, mae Elin yn dysgu'r hogiau am y gwahaniaeth rhwng "ac" ac "ag", mae Hywel yn trio cyfathrebu heb ddefnyddio geiriau ac mae Iwan yn teimlo bod y Podpeth yn cyrraedd low point. Mathonwy Llwyd o Y Reu sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter. Hefyd, mae gan Dad syniad newydd - "Prawf Sgrin".

  • Podpeth #44 - "Um Bongo Mags"

    18/09/2017 Duración: 01h49min

    Podpeth hir iawn wythnos yma, ond ddim Bonws, felly mae'n iawn yndi? Mae Hywel ac Elin yn mynd ar wyliau ac mae Iwan yn dynwared Tom Jones. Yn Class Cymraeg, 'da ni'n cael fwy o ddiarhebion, ac efallai bod ni'n clywed yr Odpeth gwaethaf erioed - "Irma Help Kids With Porn Money". Sori. Hefyd, mae gan @SpursMel syniad am ffilm - KGBale.

  • BONWS - Hywel Williams

    13/09/2017 Duración: 01h26min

    Ein gwestai arbennig wythnos yma ydi Hywel Williams, gwleidydd Plaid Cymru ac Aelod Seneddol dros Arfon.   Mae Hywel yn ateb eich cwestiynau Twitter ac yn trafod Jeremy Corbyn, Jacob Rees-Mogg, Brexit, Boris Johnson a choginio! Dilynwch Hywel ar Twitter - @HywelPlaidCymru.

  • Podpeth #43 - "Geriatric Mutant Ninja Plwmsans"

    11/09/2017 Duración: 01h26min

    Mae Iwan yn ail-ddychmygu y Gruffalo o'r newydd, mae Elin yn dyfal donc yn Class Cymraeg, mae Hywel yn holi Hywel (Williams AS) ac mae @SpursMel yn pitchio SyniaDad newydd - "2050". Fydd y Bonws gyda sgwrs cyfan efo Hywel Williams allan yn fuan... Dilynwch ni ar Twitter @podpeth a cysylltwch drwy'r wefan - podpeth.com

página 4 de 8