Podpeth

Informações:

Sinopsis

Mae Hywel Pitts, Iwan Pitts ac Elin Gruffydd yn cyflwyno Podpeth, Y Podlediad Cymraeg - cyfres gyfredol, goeglyd a ddadleuol.

Episodios

  • BONWS Podpeth - Iwan Fôn

    05/04/2017 Duración: 01h04min

    "Reu", "actio", "Duw", Bryn Fôn, syrpreisys a sleepwalking!  Mae'r actor a chanwr Iwan Fôn yn ymuno efo Iwan, Hywel ac Elin i drafod hyn a llawer mwy.  Dilynwch Iwan ar Twitter (@IwanFon1) am y diweddaraf.

  • Podpeth #29 - Word of Pod

    03/04/2017 Duración: 01h19min

    Shwdwti! Wythnos yma mae WRESTLEMANIA!, ac mae Iwan yn trio egluro'r peth i Hywel ac Elin. Ond, dim reslo ydi popeth, gan fod fwy i'w wneud, gan gynnwys sgwennu jingles, hanner buwch, a sgwrs ddifyr efo Iwan Fôn o Y Reu, Rownd a Rownd(?!) a Tourism Board Carmel, sydd yn ateb eich cwestiynau (@podpeth). Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Trysor Ta Trash".

  • Podpeth #28 - Pod Damn

    27/03/2017 Duración: 01h34min

    Shalom! Dim gwestai wythnos yma, ond mae'r Podpeth yn un hirach na'r arfer yn yr wythnos lle mae ymosodiad terfysg arall wedi digwydd. Mae Iwan, Hywel ac Elin yn trafod hyn a mwy, gan gynnwys hipster migraines, Zombi 2, gravlax, prancs a mwy! Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Dim Byd O Bwys".

  • Podpeth #27 - Podkayne of Mars

    20/03/2017 Duración: 01h12min

    Binky, Bunky, Bonky! Hulks, haircuts, hiliaeth!  Pennod ddadleuol newydd o Podpeth, efo Elin Gruffydd, Hywel Pitts, a'i frawd Iwan.  Mae Hywel yn ofn dal salwch Iwan, ac mae Elin yn gwella'r safon iaith yn gyffredinol.  Face-blindness, y Quran, tanwydd di-blwm a llawer mwy yn cael ei drafod, a chofiwch gysylltu drwy drydaru (@Podpeth).  Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Graffiti Cymraeg".

  • BONWS Podpeth - Vernon Pitts

    15/03/2017 Duración: 01h17min

    Be ddigwyddodd yn 1898 yn Cuba wnaeth ddechrau cyfres o ddigwyddiadau wnaeth arwain at yr ymosodiadau terfysg ar America ar yr 11eg o Fedi, 2001?  Mae Vernon Pitts yn "Truther", ac yn ymuno a'i neiaint Iwan a Hywel i dynnu llun fap y byd, egluro'r conspirasi 9/11 o ddechrau i'r diwedd, ac yn datgelu pwy yn union ydi'r "right-wing fascist oligarchs" sydd yn rhedeg y byd mewn podlediad annisgwyl ac annaearol.

  • Podpeth #26 - City of Pod

    13/03/2017 Duración: 01h07min

    Face front, true believer! Mae Podpeth yma unwaith eto, gydag Elin Gruffydd, Hywel Pitts ac Iwan Pitts yn trafod y pethau pwysig i gyd: Be sy'n waeth, Party Like A Russian gan Robbie Williams, neu Smells Like Teen Spirit gan Take That? Be yn union sydd tu fewn i Creme Egg? Pwy ydi Yncl Vern, a pam bod ni wedi cael o ar y Podpeth? Ia, ein gwestai arbennig wythnos yma ydi ewythr yr hogia, Vern Pitts, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Llyfrbryfed".

  • Podpeth #25 - Waiting For Podot

    06/03/2017 Duración: 01h09min

    Ahoyhoy! Technoleg, iaith, carnies, Phil Mitchell ym Mangor, Watergate, a mwy! Mae'r brodyr Iwan a Hywel Pitts yn cyflwyno Podpeth. Wythnos yma, mae Elin Gruffydd yn ymuno a'r hogia, ac yn anffodus dydi hi byth wedi gweld Beauty and the Beast (Spoilers i Beauty and the Beast). Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Hwyl Y Ffair". Dilynwch ni ar Twitter/Facebook ayyb - @Podpeth Rhybudd - iaith wael a dramgwyddus.

  • BONWS Podpeth - Elan Mererid Rhys

    01/03/2017 Duración: 01h11min

    Cyn fflio i Batagonia, mi wnaeth Elan Mererid Rhys siarad efo Iwan a Hywel am Bendith, byw yn Amsterdam, Cân i Gymru, a rock stars yr elusen Gisda.  Mae Iwan yn deud pethau tydi o ddim i fod i ddeud, felly anwybyddwch ei eiriau os gwelwch yn dda!  Dilynwch Elan ar Twitter - @elanmererid.

  • Podpeth #24 - Podulike

    27/02/2017 Duración: 01h10min

    #JeSuisIkea Cathod, gwrachod, Yncl Vern a zombies! Mae Iwan a Hywel Pitts yn nol i falu cachu am awr o'ch amser unwaith eto. Tro yma, mae Elan Mererid Rhys (Plu, Bendith) ar y soffa i drafod caws, ceir ac adar (diolch am eich cwestiynau Twitter - @Podpeth), cyn i'r hogia' plygio pethau (gig Hywel Nos Wener 3/3, podlediad arall Iwan sydd yn y "cloud") am rhy hir. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd - "Incognito".

  • Podpeth #23 - Pod People

    20/02/2017 Duración: 01h35min

    Shwd wti?! Mae'r anfarwol Podpeth yn nol, efo Iwan, Hywel ac Elin yn cyflwyno: Munud i Trump, hanner awr i SwperTed (Sbot, Smot ta Smotyn?), Tinder a Jarman, cyn trafod marwolaeth a babis. Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - Dim Sgam.

  • BONWS Podpeth - Elis Dafydd

    15/02/2017 Duración: 01h05min

    Y bardd Elis Dafydd yw ein gwestai arbennig wythnos yma!  Dewch i wrando am awr arbennig lle mae Elis yn siarad am porn, Helyntion Jos Y Ficar ac actio fel pry cop, cyn i Iwan anghofio bod o ddim yn cael siarad am Cân i Gymru (wps!).  Dilynwch Elis ar Twitter - @elisdafydd.

  • Podpeth #22 - Nineteen Eighty-Pod

    13/02/2017 Duración: 01h10min

    Iawn babi? Ma' Podpeth wythnos yma... yma! Y bardd a'r sgolor Elis Dafydd sydd yn ateb eich cwestiynau od Twitter am rom coms, beirdd a'r Cŵin. Mae'r hogiau yn siarad jingles, ac maen nhw efo un i'r segment wythnosol newydd(ish) Munud I Trump. Hefyd, mae @SpursMel efo SyniaDad newydd - Ar Y Traeth. Cofiwch ddilyn ni ar Facebook/Twitter - Bonws Elis Dafydd ar y ffordd yn fuan.

  • Podpeth #21 - SuperPod

    06/02/2017 Duración: 01h18min

    Bowlen swper! Mae Podpeth yma, ac wythnos yma does dim gwestai (eto) ond mae Elin Gruffydd yn ymuno a'r brodyr Pitts i drafod gwylanod, y SuperBowl, boi o'r enw Donald, a'r wyddor seinegol. Ydi adar yn bobl? Be ydi American Football? Pa fand roedd athro mathemateg Hywel yn arfer chwarae i*? Hefyd, mae Dad efo syniad Off The Wall. Cofiwch ddilyn ni ar Twitter (@Podpeth) a/neu hoffwch ni ar Facebook (@Podpeth). Awgrymwch westeion, gofynnwch gwestiynau (#CacA), cwynwch fod y Podpeth rhy fyr neu rhy hir, neu cysylltwch os da chi isio help i sefydlu podlediad eich hunan. *Gwres Calonnog

  • Podpeth #20 - Pod's Law

    30/01/2017 Duración: 01h05min

    Helo gyfeillion! Mae Podpeth yn nol unwaith eto i ddathlu pen-blwydd @SpursMel!  Mae'r Elin Gruffydd yn ymuno unwaith eto i gadw trefn ar yr hogiau wrth iddynt recordio hanner podlediad yn lysh gachu, a'r ail-hanner yn hungover, felly llwyth o egni, wedyn dim egni, a gormod o fwydro am Trump, ffilms M Night Shyamalan, a Sir Fon. Son am fwydro, mae @SpursMel efo syniad o'r enw Mwydro'r Mascots, sydd yn mynd a ni nol ar y ZipLine. Os ydi ZipWorld isio noddi y Podpeth, croeso i chi gysylltu ar Twitter (@Podpeth).

  • BONWS Podpeth - Ifor ap Glyn

    25/01/2017 Duración: 01h30min

    Mae ein gwestai arbennig wythnos yma yn Fardd Cenedlaethol Cymru, cyflwynydd Sêr ar HTV Cymru, prif leisydd Treiglad Pherffaith, ac mae o'n cefnogi Spurs.  Dewch i wrando ar gyfweliad BONWS lle mae Ifor ap Glyn yn egluro i'r hogia' pethau fel Brexit, Bar Mitzvahs a'r Gynghanedd.  Dilynwch Ifor ar Twitter - @iforapglyn Ymddiheuriadau i: Asiant Ifor ap Glyn Arfon Wyn Donald Trump Shân Cothi Cliff Richard Pobl Cwm-Y-Glo Pobl Llambed a Tommo

  • Podpeth #19 - PODUS

    23/01/2017 Duración: 01h05min

    Bore dda! Hostels, caws-fyrddio, bridio pugs - ia wir, mae Podpeth wythnos yma llawn dop o gynnwys pwysig a clyfar yng nghwmni'r brodyr Iwan a Hywel. Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn sydd ar y soffa yn y parlwr efo panad i ateb eich cwestiynau Twitter (@Podpeth). Hefyd, mae @SpursMel efo syniad am raglen - "Dwi'n Meiddio Chdi". Dwi'n meiddio i chdi wrando! Bonws Ifor ap Glyn ar y ffordd Nos Fercher.  

  • Podpeth #18 - Podland

    16/01/2017 Duración: 01h12min

    Beth sydd i fyny? Mae Elin Gruffydd yn cyd-gyflwyno Podpeth, lle 'da ni'n trafod Titanic, Babooshka, # a Nigel Farage. Hefyd, mae @SpursMel efo syniad llawn twists... Ein gwestai nesaf (wythnos nesaf) fydd Ifor Ap Glyn (Bardd Cenedlaethol Cymru), felly twitiwch eich cwestiynau atom (@Podpeth). Dim bonws wythnos yma, ond mae peilot SyniaDad - Heddwch Ei Lwch 2016 ar gael i'w wylio ar ein sianel YouTube. Mwy o fideos i ddod yn fuan.

  • BONWS Podpeth - Miriam Elin Jones

    11/01/2017 Duración: 01h04min

    Mae Miriam Elin Jones yn flogwraig a myfyriwr PhD sydd yn astudio Ffuglen Wyddonol yn y Gymraeg.  Mae hi hefyd yn 5'4", ac yn un o sylfaenwyr Y Stamp, cylchgrawn llenyddol newydd.  Mae Miriam yn rhagweld y dyfodol, trafod cerddoriaeth a ffasiwn, ac yn dysgu'r hogia am hen fenyw fach Cydweli.

  • Podpeth #17 - Hand of Pod

    09/01/2017 Duración: 01h11min

    Shw'mae! Tydi Hywel ddim yn ffan o ddynwarediad Iwan o Arnold Schwarzenegger. Hefyd, mae'r hogiau yn trio dipyn o ASMR, ac mae Iwan yn trio plygio ei bodlediad newydd, sydd yn swnio'n hollol anaddawol a rybish. Ein gwestai arbennig wythnos yma ydi Miriam Elin Jones, sydd yn ateb eich cwestiynau Twitter a Facebook (@Podpeth), cyn bron dweud "cont"! Mwy o hanes Miriam (a'r Stamp) i ddod yn fuan mewn pennod Bonws. Hefyd, mae Dad efo syniad newydd, a thro yma, mae o am ffilm Nadoligaidd Cymraeg...

  • Podpeth #16 - Pod To The Future

    02/01/2017 Duración: 01h21min

    Blwyddyn Newydd Dda! Mae'r flwyddyn Dwy-Fil Dwy-Ar-Bumtheg wedi cyrraedd!  Yn cyd-cyflwyno mae Elin Gruffydd (MA).  Gwrandewch wrth i ni dehongli 2016, dynwared Prince Charles, a darllen y Daily Mail.  Hefyd, mae SpursMel yn cynnig syniad anhygoel arall o'r enw "Heddwch Ei Lwch".

página 6 de 8