Sinopsis
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people
Episodios
-
Beks - Rebekah James
03/04/2022 Duración: 53minBeks - Rebekah James yw gwestai Beti George, cyn-gyflwynydd ar Radio Cymru, sydd bellach yn byw yn Hong Kong. Ganwyd Beks yng Nghaerdydd cyn i'r teulu symud i Abertawe pan oedd yn ei harddegau. 20 mlynedd nol roedd hi'n un o sêr Radio Cymru, ac ond wedi iddi gyfarfod a'i gwr, Rhodri fe symudodd i fwy gydag ef i Hong Kong. Eleni fe fydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 50, mae hi'n sôn am ei theulu, ei bywyd yn Hong Kong a'r sefyllfa sydd ar hyn o bryd yna yn sgil covid.
-
Tegryn Jones
27/03/2022 Duración: 52minTegryn Jones Prifweithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw gwestai Beti George. Mae'r Parc yn dathlu 70 mlynedd eleni, ac mae'n trafod yr heriau fu yn 1952 i sefydlu'r Parc a'r heriau gwahanol y maent yn eu hwynebu heddiw. Mae Tegryn wedi gwneud amrywiol swyddi ac mae'n rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.
-
Elin Mai
20/03/2022 Duración: 50minElin Mai, Perchennog y cwmni Style Doctors sydd yn cadw cwmni gyda Beti George. Fe dreuliodd y rhan fwyaf o’i phlentyndod yn Llangristiolus, Ynys Môn a dyma le wnaeth hi ddechrau ei chwmni cyn symud i Lundain, Efrog Newydd, Miami, Dubai...Mae Elin yn cyflogi dros 50 o staff ac maen nhw’n cynnig gwasanaeth steilo dillad i bwy bynnag sydd yn dymuno. Mae hi wedi steilio Malala Yousafzai, Amanda Holden a'r comedïwr Keith Lemon. Mae'n rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.
-
Gwenan Roberts
13/03/2022 Duración: 50minGwenan Roberts ydi gwestai Beti a'i Phobol - mae hi wedi bod yn gweithio am flynyddoedd fel Therapydd iaith a lleferydd, ond bellach yn Athro meddylgarwch. Mae hi’n sôn am ei gwaith a’r amrywiaeth o swyddi gwahanol mae hi wedi ei wneud o weithio gyda throseddwyr ifanc i dreulio blwyddyn yn Calcutta. Yn wreiddiol o bentref Dinmael ger Corwen mae hi'n siarad am ddylanwad y fagwraeth glos yna arni.Cafodd ei chyflwyno i feddylgarwch tua deunaw mlynedd yn ôl ac yr oedd ei ymarfer yn hanfodol iddi yn ystod y cyfnod ansicr a gafodd. Tra'n gweithio llawn amser llawn amser dechreuodd gwrs ôl radd i fod yn athro meddylgarwch.
-
Siân Elen Tomos
07/03/2022 Duración: 49minBeti George yn sgwrsio gyda Siân Elen Tomos. Fel Prif Weithredwr GISDA mae Siân yn rheoli ac arwain GISDA ers Hydref 2011 i sicrhau gwasanaeth o ansawdd i bobl ifanc bregus yng Ngogledd Cymru. Law yn llaw gyda hynny mae Siân yn ceisio sicrhau parhad mewn gwahanol wasanaethau drwy geisio am grantiau a thendro am arian. Cyn ymuno a’r tîm yn GISDA roedd Siân yn gweithio fel gweithiwr Cymdeithasol yng ngwasanaethau plant Cyngor Gwynedd, aeth yna ymlaen i fod yn Rheolwr Tîm yng ngwasanaeth i blant anabl yng Ngwynedd. Yn enedigol o Ddeiniolen, mynychodd Ysgol Gwaun Gynfi, ac Ysgol Uwchradd Brynrefail, mae hi bellach yn byw yng Nghaernarfon. Mae ei diddordebau yn cynnwys cerdded, bod allan yn yr awyr agored, teithio, materion cymunedol a gwleidyddiaeth, ac mae hi'n rhannu straeon bywyd ac yn dewis ambell i gan sydd yn agos at ei chalon.
-
Wyn Thomas
20/02/2022 Duración: 47minWyn Thomas, mab fferm o Geredigion, sydd yn weinidog ac yn gweithio gydag elusen Tir Dewi yw gwestai Beti George. Mae yn byw bellach yn Drefach Felindre gyda'i ŵr Mathew ac yn bridio peunod a chadw asynod ar eu tyddyn. Mae wedi wynebu sawl her, ac mae'n siarad am ei fywyd ac yn dewis ambell gân.
-
Edward Keith Jones
13/02/2022 Duración: 49minEdward Keith Jones yw gwestai Beti George. Mae'n Brif Ymgynghorydd Newid Hinsawdd gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mynydda yw ei ddiléit pennaf, ac fe ddringodd pob mynydd yng Nghymru, 183 ohonynt, i ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant. Yn yr 8 mis diwethaf fe gafodd salwch difrifol a olygodd wythnosau lawer yn yr ysbyty yn ymladd am ei fywyd.
-
Elin Prydderch
06/02/2022 Duración: 49minElin Prydderch yw gwestai Beti George, merch sydd yn wreiddiol o Nasareth yn Nyffryn Nantlle. Mae hi'n Faethegydd ac yn Adweithegydd, yn Fam i 3 a bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae ganddi ddiddordeb mawr yn y corff ac mewn bwyta bwyd iach sydd yn gwneud i ni deimlo'n well. Fe gafodd ddiagnosis o Ddyslecsia'n oedolyn ac mae hi'n rhannu profiadau bywyd ac yn dewis ambell i gan sydd yn agos at ei chalon o Sunami i Sia.
-
Theo Davies-Lewis
30/01/2022 Duración: 51minBeti George yn sgwrsio gyda Theo Davies-Lewis y sylwebydd gwleidyddol am ei fagwraeth yn Llanelli, ei gyfnod yn Coleg Llanymddyfri, a Phrifysgol Rhydychen. Yn 24 mlwydd oed mae'n ysgrifennu colofnau i'r cylchgrawn The Spectator ac yn cyfrannu i'r Times ac fe yw prif sylwebydd gwleidyddol y National Wales. Mae'n rhannu profiadau ac yn dewis darnau o gerddoriaeth sydd yn agos at ei galon.
-
Rebecca Elizabeth Roberts
23/01/2022 Duración: 52minBeti George yn sgwrsio gyda'r nofelydd Rebecca Roberts o Brestatyn. Mae hi wedi ysgrifennu pedair nofel ac wedi ennill gwobr Tir na n-Og a Llyfr y Flwyddyn i bobol ifanc, ac yn un o'i llyfrau mae'r prif gymeriad gydag anabledd ac yn gwisgo coesau prosthetig yn union fel mae merch yr awdur. Mae hi hefyd yn Weinydd Dyneiddiol ac yn rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.
-
Geraint Jones
16/01/2022 Duración: 53minYr Athro Geraint Jones, Pennaeth Gwyddoniaeth y Planedau, UCL Llundain yw gwestai Beti George. Mae ganddo asteroid sydd wedi ei enwi ar ei ôl a hefyd mae ganddo record yn y Guinness Book of Records gan iddo ddarganfod cynffon comed hiraf erioed ar y pryd. Mab fferm Bryn Hyrddin, Pentraeth Ynys Môn ydi Geraint, fe aeth i Ysgol Gynradd Pentraeth. Roedd ganddo ddiddordeb yn y gofod bryd hynny ond doedd na neb arall yn wyddonwyr yn y teulu. Bu wedyn yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun David Hughes ym Mhorthaethwy, cyn symud i Lundain i astudio Seryddiaeth yn yr UCL, y Coleg lle mae o’n gweithio rŵan.
-
Samuel Kurtz
09/01/2022 Duración: 54minBeti George yn sgwrsio gyda Samuel Kurtz Aelod Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn ein Senedd ni yn y Bae. Mae'n weithgar iawn gyda'r Ffermwyr Ifanc ac yn cefnogi elusen DPJ, sefydliad ac elusen iechyd meddwl yng Nghymru sydd yn cefnogi’r rheini mewn cymunedau gwledig ac mewn amaethyddiaeth sydd â phroblemau iechyd meddwl. Mae'n dewis ambell gân sydd wedi creu argraff gan gynnwys Dafydd Iwan a Shed Seven.
-
Kristoffer Hughes
02/01/2022 Duración: 53minKristoffer Hughes, Pennaeth Derwyddon Ynys Môn ac awdur toreithiog llyfrau am fytholeg a chwedlau Cymru, yw gwestai Beti George. Mae newydd ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant ac wedi penderfynu rhoi'r gorau i'w waith fel 'anatomical pathology technologist'- technegydd patholegol mewn marwdy. Fe fydd hefyd yn gyfarwydd i lawer fel Maggi Noggi, ac mae Kris yn sôn ei fod angen Maggi yn ei fywyd. Mae'n sôn ei fod wedi dioddef o 'body dysmorphia' - " Oni byth yn ffitio mewn, 'o ni'n tyfu i fyny fel hogyn yn symud i mewn i gymdeithas hoyw ac roedd y rheini mor beautiful a doeddwn i jest ddim yn teimlo hynny". Mae Kristoffer hefyd yn siarad am baganiaeth, derwyddiaeth ac yn dewis caneuon sydd yn agos at ei galon, gan gynnwys rhai gan Eden a Bronwen Lewis.
-
Mei Jones
19/12/2021 Duración: 54minRhaglen deyrnged i'r diweddar Mei Jones yr actor, sgriptiwr ac awdur wnaeth greu rhai o gymeriadau comedi mwyaf hoffus a chofiadwy yn y Gymraeg,Fe recordiodd Beti George ddwy raglen gydag ef yn 2004 ac fe'i darlledwyd ar ddau Sul yn olynol - a dyma gyfle i chi eu clywed.
-
John Alwyn Griffiths
12/12/2021 Duración: 53minAwdur nofelau Ditectif a cyn Ditectif Arolygydd yn yr Adran dwyll yng Ngogledd Cymru John Alwyn Griffiths yw gwestai Beti George. Cawn glywed am ei fagwraeth ym Mangor a'i waith fel plismon, ditectif ac fe ddaeth yn Bennaeth yr Adran Dwyll. Pan oedd John yn fachgen ifanc yn yr ysgol doedd gan yr athrawon ddim llawer o hyder ynddo, medda fo. Feddyliodd neb y byddai’r bachgen hwnnw rhyw ddiwrnod yn awdur poblogaidd ac wedi cael gyrfa lwyddiannus yn yr heddlu. Mi helpodd ei brofiad o weithio efo’r Heddlu i ddatblygu fel person. Ar ôl ymddeol mae wedi bod yn brysur yn ysgrifennu nofelau ditectif yn y Gymraeg. .Mae John yn rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff
-
Laura Karadog
05/12/2021 Duración: 54minLaura Karadog ydi'r cwmni, ac fe gawn glywed am ei magwraeth yn Nhal-y-bont ger Bangor, a'i chyfnod hapus yn Ysgol Llanllechid ac Ysgol Dyffryn Ogwen - a'i thaith yn 12eg mlwydd oed i Czechoslovakia. Mae hi'n sôn am y profiad o fyw yn Tokyo, gweithio yn San Steffan a'i chyfnod yn Philadelphia yn dysgu mwy am y Crynwyr. Fe fu'n brwydro'r clefyd anorecsia yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol yn Aberystwyth, a dyna wnaeth iddi droi at Yoga. Erbyn hyn mae hi'n byw ym Mhontyberem ar ôl cyfnod o fyw gyda'r teulu yn Llydaw. Mae hi'n rhannu straeon rif y gwlith ac yn sôn am ei phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff, o Bendigeidfran gan Lleuwen i 'This is Me' - cân allan o’r sioe The Greatest Showman.
-
Dr Robin Parry
28/11/2021 Duración: 51minDr Robin Parry, meddyg teulu yn Llanberis am dros 30 mlynedd ydi gwestai Beti George. Ei gariad cyntaf yw pysgota ac mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y Torgoch sy'n byw yn Llyn Padarn. Mae newydd ymddeol ac yn sôn am ei gyfnod yn hyfforddi ym Manceinion ac yn trafod yr heriau mae meddygon wedi ei wynebu yn ystod y pandenig. Mae'n rhannu straeon a phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff, o Edward H i ganeuon Opera Eidalaidd.
-
Steffan Huws
21/11/2021 Duración: 54minBeti George yn sgwrsio gyda pherchennog Poblado Coffi, Steffan Huws. Cawn glywed am ei fagwraeth ym Mhontypridd, ei hanes yn dysgu Saesneg yn Nhaiwan a Colombia lle bu yng nghanol achos hunllefus o herwgipio a'i fusnes yn Ddyffryn Nantlle sydd yn rhostio coffi. Mae Steffan hefyd yn rhannu straeon rif y gwlith ac yn dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.
-
Elin Llwyd Morgan
07/11/2021 Duración: 54minMae Beti George yn sgwrsio gydag Elin Llwyd Morgan am ei gyrfa fel newyddiadurwraig, cyfarfod Peris ei chymar a sut wnaeth ei bywyd newid pam symudodd i Glyn Ceiriog i fyw a phan ddaeth ei mab Joel i'r byd. Mae hi'n sôn am ei magwraeth, ei hoffter o nofio yn y môr ac yn rhannu ei phrofiadau personol o fagu mab sydd ag awtistiaeth. Mae hi hefyd yn dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff.
-
Dr Paula Roberts
31/10/2021 Duración: 54minBeti George yn sgwrsio gydag Dr Paula Roberts sydd wedi treulio amser yn yr Arctig ac Antartica, ac wedi seiclo yn yr Himalayas a Uzbekistan.